Gwybodaeth i’r Claf

Beth yw Ceiropracteg?

Galwedigaeth iechyd yw ceiropracteg sydd yn trin anhwylderau mecanyddol yn y system gyhyrysgyrbedol ac effeithiau’r anhwylderau hyn ar weithrediad y system nerfol.

Yn y lle cyntaf, mae ceiropractyddion yn trin poen cefn, seiatica, poen gwddf, pen tost a nerfau wedi’i thrapio er all ceiropractydd trin nifer o gyflyrau eraill yn eich corff.

Sut byddwn i yn gwybod os taw ceiropracteg yw’r driniaeth cywir i mi?

Prif achos poen cefn a gwddf ydy asgwrn cefn iach sydd ddim yn medru symud yn gywir. Mae hyn yn digwydd o ganlyniad osgo gwael, straen ar y corff, anafiadau a stres. Mae ceiropractydd yn medru darganod camsymudiant yn eich cefn ac yn defnyddio arbrofion meddygol, orthopedeg a niwrolegol i ddarganfod achos eich anhwylder. Os oes angen sylw meddygol arnoch, mae gen eich ceiropractydd yr hyfforddiant i adnabod hyn ac i’ch hela at eich meddyg teulu.

A oes angen i mi gysylltu âm meddyg?

Nac oes, oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny. Mae mwy a mwy o’r meddygon lleol yn hapus i anfon eu cleifion atom ni wrth iddynt sylweddoli canlyniadau gwych mae ceiropracteg. Rydym yn aml yn paratoi ac hela adroddiad at feddygon i rhoi gwybod am eich cyflwr a’ch dilyniant.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ymweld â cheiropractydd am y tro gyntaf?

Mae’r ymweliad cyntaf yn para hyd at awr. Yn ystod yr amser yma bydd holl hanes eich achos yn cael ei gofnodi a gofynnir i chi gytuno i gael archwiliad corfforol. Cewch ddadwisgo at eich dillad isaf mewn ystafell breifat a byddwch yn cael cynnig gwn. Os dymunwch, cewch ddod â ffrind i wylio’r archwiliad. Cyn i’ch triniaeth ddechrau, fe fydd eich ceiropractydd esbonio’n glir natur eich anhwylder a natur y driniaeth. Fel arfer, fydd triniaeth ar yr ymweliad cyntaf.

A fydd angen pelydr-X arnaf?

Nid fel arfer. Mae gen eich ceiropractydd yr hyfforddiant a’r profiad i adnabod achosion lle mae pelydr-X, sgan MRI neu arbrofion labordy yn eu hangen ac bydd yn trefnu rhain i chwi yn breifat.

Beth sydd yn digwydd yn ystod y triniaeth?

Mae pwys mawr yn cael ei roi ar driniaethau â llaw, sy’n cynnwys llawdriniad neu gywiriad madruddol. Yn ogystal defnyddir technegau megis aciwbigo, tylino’r corff, uwchsain ac ymestyn. Fe fyddwn yn eich dysgu sut i ofalu am eich cefn fel eich body n gallu rhwystro problemau rhag dychwelyd. Fe allwn eich cynnig cyngor ar ymarferion adfer, ychwanegion deietegol a chymhorthion orthopedeg.

A fydd y driniaeth yn achosi poen?

Fel arfer, mae’r driniaeth yn ddi-boen yn enwedig os gallwch ymlacio yn ystod y driniaeth.

Faint fydd rhaid I mi dalu am fy nhriniaeth?

Cost archwiliad llawn ydy £30. Mae triniaethiau dilynol fel arfer yn para chwarter awr a’r gost ydy £27.50. Mae nifer o gwmnïau yswiriant yn medru helpu hefo cost y driniaeth megis AXA PPP, HSA a WHA.

Sawl gwaith fydd angen imi ymweld âr ceiropractydd?

Bydd hwn yn dibynnu ar eich cyflwr penodol chi, pa mor difrifol ydyw a’ch ymateb i’r driniaeth. Fel arfer ar gyfer achos syml o boen cefn disgwylir oddeutu 6 triniaeth yn y mis gyntaf, yn lleihau wrth iddych ymateb yn ffordd foddhaol.

Pa fath o hyfforddiant sydd gen fy nhgeiropractydd?

Mae Dr. Hedd Piper yn aelod o’r Gymdeithas Geiropracteg Brydeinig, sydd yn golygu fod ganddo’r cymhwyster ucha bosib wrth iddo astudio am radd llawn amser mewn Ceiropracteg yn y Sefydliad Ceiropracteg Cymraeg. Mae hyn yn ei alluogi i fod yn aelod o Undeb Ewropeaidd y Ceiropractyddion. Fe ydy’r unig aelod o’r Gymdeithas a’r Undeb yng Ngheredigion. Yn ogystal, mae yn aelod lawn o Goleg y Ceiropractyddion ac yn aelod profesiynol o’r elusen BackCare. Ei rhif cofrestredig hefo’r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol ydy 02059. Mae wedi bod yn practis preifat ers 2003.

Sut galla i wneud apwyntiad?

Mae croeso i chi alw at y clinig neu gallech ein ffonio ar (01970) 611190. Ceisiwn geich weld mor fuan ac sydd yn bosib.

Beth sydd angen imi ei wneud cyn apwyntiad?

Chymer cawod neu fath ar dydd yr apwyntiad. Anelwch at bod o leiaf deg munud yn gynnar. Rhowch 24 awr o rhybudd os na fedrwch mynychu am eich apwyntiad os gwelwch yn dda.

Os y hoffech wybod mwy peidiwch oedi cyn cysylltu – edrychwn ymlaen I glywed oddiwrthych.